Register to receive the Sports Leaders UK Email Newsletter

Chwaraeon Cymru - Pobl Ieuainc Egïnol

Mae gan Chwaraeon Cymru ddwy raglen Pobl Ifanc Egnïol sy'n cynnwys gwirfoddolwyr, athrawon ac arweinwyr ifanc ac sy'n helpu pobl ifanc i ddod yn fwy egnïol.

Rhaglen Pobl Ifanc Egnïol - 5x60

Mae 5x60 yn rhaglen gynhwysol sydd wedi'i chreu i annog rhagor o bobl ifanc o oedran ysgol uwchradd i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon. Mae 5x60 yn cynnwys detholiad o weithgareddau chwaraeon traddodiadol tebyg i Gampau'r Ddraig; mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau a gaiff eu hyfforddi megis tennis, badminton a sboncen, a gweithgareddau anffurfiol megis tennis bwrdd, dawns, dawns codi hwyl a rhai gweithgareddau awyr agored a gweithgareddau antur megis cyfeiriannu. Mae 5x60 yn ceisio annog mwy o bobl ifanc nag erioed o'r blaen i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol trwy gael gwared ar y rhwystrau sy'n atal rhai rhag cymryd rhan. Fel rheol cynhelir y gweithgareddau hyn ar safle'r ysgol uwchradd, a chânt eu harwain gan hyfforddwyr gwirfoddol, Arweinwyr Chwaraeon a rhieni.

Rhaglen Pobl Ifanc Egnïol - Campau'r Ddraig

Mae Campau'r Ddraig yn rhaglen weithgareddau gynhwysol i bobl ifanc rhwng saith ac 11 oed. Mae'r chwaraeon canlynol yn rhan o Gampau'r Ddraig: athletau, criced, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, tennis, golff a rygbi. Ar gyfer pob camp sy'n rhan o Gampau'r Ddraig ceir cyfres o gardiau gêmau a gweithgareddau a bag o offer sy'n addas i bobl ifanc yn y grŵp oedran hwn. Mae'r cardiau gêmau a gweithgareddau'n cynnig gweithgareddau graddedig sy'n cefnogi gwaith datblygu sgiliau, gan arwain at fersiwn o'r gêm i blant, sy'n cael ei gydnabod gan Gorff Llywodraethu'r gamp. Cynhelir Campau'r Ddraig ar safleoedd ysgolion cynradd y tu allan i oriau ysgol, a chaiff y rhaglen ei harwain gan drefnwyr gwirfoddol.

Chwaraeon Cymru ac Arweinwyr Chwaraeon y DU yn gweithio gyda'i gilydd

Mae Arweinwyr Chwaraeon y DU yn Gorff Dyfarnu wedi'i reoleiddio sy'n gweithredu yng Nghymru a'r DU ac yn Sefydliad Elusennol sy'n darparu ystod o Ddyfarniadau a Chymwysterau yn ymwneud ag Arweinyddiaeth.

Mae'r bartneriaeth rhwng Arweinwyr Chwaraeon y DU a Chwaraeon Cymru wedi'i hen sefydlu, ac mae Chwaraeon Cymru wedi gofyn i'r mudiad adolygu'r cwrs presennol ar gyfer Trefnwyr Pobl Ifanc Egnïol.

Y cwrs presennol ar gyfer Trefnwyr Pobl Ifanc Egnïol

Gall ymgeiswyr ddod yn Drefnydd Pobl Ifanc Egnïol trwy fynychu cwrs undydd sy'n eu helpu i ddeall a chyflawni eu rôl; trefnu gweithgareddau diogel, hwyliog a phwrpasol i bob person ifanc; a gweithio'n gyffredinol yn unol ag amcanion ac athroniaeth y rhaglen Pobl Ifanc Egnïol a nodau penodol y rhaglen y byddant yn ei chyflwyno.

Y cwrs newydd ar gyfer Trefnwyr Pobl Ifanc Egnïol

Nid yw cynnwys y cwrs wedi newid, ond bydd ymgeiswyr sy'n 12 oed neu'n hŷn yn gallu cymryd rhan yn y cwrs hwn ac ennill Dyfarniad Trefnydd Pobl Ifanc Egnïol, a gaiff ei ardystio gan Arweinwyr Chwaraeon y DU ar ran Chwaraeon Cymru. Mae hynny'n golygu y bydd yr ymgeiswyr yn cael cydnabyddiaeth ffurfiol am gwblhau eu cwrs, ac mae'n golygu y byddant yn gallu defnyddio'r hyn a ddysgwyd wrth gwblhau'r Dyfarniad Trefnydd Pobl Ifanc Egnïol i ennill cymwysterau Lefel 1 a Lefel 2 sy'n cael eu cynnig gan Arweinwyr Chwaraeon y DU.

Ceir rhywfaint o waith dysgu sy'n debyg yn y naill raglen a'r llall, sy'n golygu y gall y Dyfarniad Pobl Ifanc Egnïol a Chymwysterau Lefel 1 a Lefel 2 Arweinwyr Chwaraeon y DU weithio ochr yn ochr â'i gilydd gan fwydo i mewn i Gontinwwm Arweinyddiaeth Chwaraeon Cymru / Arweinwyr Chwaraeon y DU.

Pam y byddai'n fuddiol cynnal y rhaglenni Pobl Ifanc Egnïol ochr yn ochr â rhaglenni Arweinwyr Chwaraeon y DU mewn canolfannau

Byddai cynnal y rhaglenni Pobl Ifanc Egnïol ochr yn ochr â'r rhaglenni Arweinwyr Chwaraeon y DU yn galluogi dysgwyr i groesgyfeirio rhwng eu gwaith dysgu yn rhan o'r Dyfarniad Pobl Ifanc Egnïol a'u gwaith dysgu yn rhan o gymhwyster Arweinyddiaeth Chwaraeon - sy'n gymhwyster a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol sydd ar yr un fframwaith â chymwysterau BTEC ac NVQ.

Bydd Arweinwyr Chwaraeon y DU yn achredu'r canlyniadau dysgu priodol o'r Dyfarniad Trefnwyr Pobl Ifanc Egnïol fel gwaith dysgu blaenorol - sy'n golygu y gall y dysgwr ddefnyddio gwaith dysgu o'r cwrs Pobl Ifanc Egnïol fel credyd wrth geisio ennill cymhwyster arweinyddiaeth, sy'n mynd â hwy ymhellach ar hyd y Continwwm Arweinyddiaeth.

Mae hynny'n golygu bod y dysgwr yn elwa trwy gael cyfle i ennill cymwysterau ychwanegol.

Mae'r gymuned yn elwa oherwydd mae'n creu arweinwyr cymwys sy'n gallu cynorthwyo â gweithgareddau a'u harwain mewn amrywiaeth o leoliadau.

(Dylech gyfeirio at y dogfennau mapio ar y dudalen hon i gynorthwyo â'r gwaith o gyflwyno'r rhaglenni hyn).

Mapping Documents

Please refer to the following Mapping Documents to assist in the delivery of these programmes.

Yr hyn y mae angen ei wneud nesaf

  • Download and print off the AYP Centre Registration Form, complete it and return it to Sports Leaders UK. You only need to do this once in order for your school, college or club will to be registered as an Active Young People Organiser Award delivery centre. You will then be allocated a centre number for future use.
  • You need to be trained and accredited by Sport Wales as an Active Young People Organiser Award tutor, and need to be suitably insured and covered to deliver the course.
  • You can also register with Sports Leaders UK to run a sports leadership qualification. Contact the Wales Foundation Manager for guidance if required.
  • Run your Active Young People Organiser Award for your learners.
  • Download and print off the AYP Certificate Request Form, complete it and return it to Sports Leaders UK.
  • You will then receive certificates for your AYP learners and an invoice for £2 per certificate.
  • Continue to run your sports leadership course and on completion complete the Learner Certificate Request Forms found in the learner Record Of Achievements and return to Sports Leaders UK for certificates to be issued.

Gallwch ddarllen rhagor am raglen Pobl Ifanc Egnïol Chwaraeon Cymru.